Tecwyn LloydWILLIAMSHydref 7, 2022 Yn frawychus o sydyn yn ei gartref, 2 Frondeg, Rhostryfan, (gynt o Plas Ffynnon, Rhosgadfan), yn 69 mlwydd oed. Mab annwyl y diweddar William Lloyd ac Olwen Williams, brawd hoff i Gwilym a Gwynfor a brawd yng nghyfraith i Catherine, ewythr hoffus i Dewi, Llion, Lliwen a Tomos. Bydd yn golled trist i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Gwilym Jones a'i Fab, Ffordd y De, Caernarfon, dydd Mercher, Hydref 26 am 11 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Capel Rhosgadfan am oddeutu 12 o'r gloch. Derbynnir blodau neu rhoddion yn ddiolchgar tuag at Hafan Iechyd. Ymholiadau pellach i Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Ffordd y De, Caernarfon 01286 673072.
Keep me informed of updates